Un arall o nodau allweddol y prosiect hwn yw darparu cyfleoedd i bobl a chanddynt brofiad byw i ennill hyder, sgiliau a gwybodaeth a fydd yn eu helpu i godi eu llais a dylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys:
- Cyfleoedd am hyfforddiant
- Teithiau o amgylch Senedd Cymru
- Gweithdai gyda sefydliadau gweithredu
- Sgyrsiau gyda phobl ysbrydoledig neu ddylanwadol

Sgwrs a Thaith o amgylch y Senedd: rydym wedi llwyddo i sicrhau cyfle arall i bobl a chanddynt brofiad o fyw i fynd ar daith o amgylch y Senedd a gwylio Cwestiynau’r Prif Weinidog. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.