Nod y prosiect hwn yw darparu cyfleoedd i bobl a chanddynt brofiad o wasanaethau digartrefedd a chymorth tai i godi eu lleisiau er mwyn dylanwadu ar bolisi ac ymarfer.
Byddwn yn gwneud hyn trwy ystod o wahanol gyfleoedd, yn cynnwys arolygon ar-lein, grwpiau ffocws, cyfweliadau, a’n panel o arbenigwyr, a thrwy gefnogi dau berson i fod yn aelodau o Fwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Gymorth Tai Llywodraeth Cymru.
Gall telerau tai fod yn ddryslyd. Cliciwch yma i ddysgu mwy – Termau sy’n gysylltiedig â thai
Gallwch chi ddewis sut a phryd yr hoffech chi gymryd rhan yn y prosiect a chodi eich llais. Dyma rai o’r cyfleoedd sydd ar y gweill:

Aelodaeth o’r Y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd
Mae gennym gyfle cyffrous i ddau berson â phrofiad byw i eistedd ar Fwrdd Cynghori Cenedlaethol Cymorth Tai. Mwy o wybodaeth yn dod yn fuan.

Dylanwadu ar ddeddfau digartrefedd newydd
Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn gweithio gyda Phanel Adolygu Arbenigol Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl a chanddynt brofiad o fyw yn gallu dylanwadu ar newidiadau i ddeddfwriaeth yn ymwneud â digartrefedd a thai. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn fuan!