Drwy gyfrwng dau arolwg a chyfres o gyfweliadau, mae’r papur hwn yn ffocysu ar bobl ifanc a rhai sydd wedi goroesi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol.
Diolch o galon i bawb sydd wedi rhannu eu sylwadau a’u profiadau gyda ni.
Wrth i ni dynnu at ddiwedd y materion yn ymwneud â thai yn yr adolygiad deddfwriaethol, cynhaliwyd dau ddigwyddiad wyneb yn wyneb yn ne a gogledd Cymru i roi cyfle olaf i bobl a chanddynt brofiad byw o ddigartrefedd i drafod eu barn a’u syniadau.
Mae Llywodraeth Cymru’n ystyried newid y gyfraith i wella’r modd rydym yn atal digartrefedd ac yn ymateb iddo yng Nghymru – ac maent yn awyddus i glywed barn pobl a chanddynt brofiad o ddigartrefedd a’r rhai sydd wedi bod mewn perygl o ddigartrefedd.
Aethom ati i ddosbarthu arolwg a siarad gyda grwpiau o bobl sydd naill ai’n byw mewn llety dros dro neu a chanddynt brofiad o lety dros dro a chael mynediad at dai cymdeithasol.
Diolch o galon i bawb a rannodd eu sylwadau a’u profiadau gyda ni.
Angen blaenoriaethol, bwriadoldeb a chysylltiad lleol.
Mae Llywodraeth Cymru’n ystyried newid y gyfraith i wella’r modd rydym yn atal digartrefedd ac yn ymateb iddo yng Nghymru – ac maent yn awyddus i glywed barn pobl a chanddynt brofiad o ddigartrefedd a’r rhai sydd wedi bod mewn perygl o ddigartrefedd.
Aethom ati i ddosbarthu arolwg a siarad gyda nifer fechan o bobl oedd yn ddigartref ar y stryd a/neu oedd wedi wynebu heriau yng nghyd-destun cysylltiad lleol.
Diolch o galon i bob un o’r bobl wych a rannodd eu sylwadau a’u profiadau gyda ni.
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried newid y gyfraith er mwyn gwella’r modd rydym yn atal ac yn ymateb i ddigartrefedd yng Nghymru – ac maent yn awyddus i glywed barn pobl a chanddynt brofiad o ddigartrefedd, a phobl sydd wedi bod mewn perygl o fod yn ddigartref.
Aethom ati i ddosbarthu arolwg a threfnu dau ddigwyddiad wyneb-yn-wyneb – un yng ngogledd Cymru a’r llall yn ne Cymru – er mwyn dod i ddeall eich profiadau chi ar sut i atal digartrefedd.
Diolch o galon i’r holl bobl anhygoel ddaeth i’n digwyddiadau neu a gymerodd amser i gwblhau’r arolwg.
Roedd eich profiadau a’ch barn mor graff, ac mae’n bleser gennym rannu’r adroddiad a anfonwyd at y Panel Adolygu Arbenigol gyda chi.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi trefnu taith arall o amgylch Senedd Cymru ar gyfer pobl a chanddynt brofiad o ddigartrefedd neu o ddefnyddio gwasanaethau cymorth tai yng Nghymru. Bydd hyn yn digwydd ddydd Mawrth 12 Gorffennaf rhwng 11:30 a 14:30.
Mae hwn yn gyfle i bobl a chanddynt brofiad o fyw i gael taith bersonol o amgylch Senedd Cymru, lle mae ein gwleidyddion yn trafod, dadlau a phleidleisio ar faterion sy’n effeithio ar bob un ohonom – yn cynnwys tai, iechyd, addysg a gofal cymdeithasol. Byddwch hefyd yn dysgu sut y gallwch sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.
Fel rhan o’r daith, cewch gipolwg ar y Siambr, lle bydd aelod o staff y Senedd yn esbonio sut mae’r cyfan yn gweithio, yn cynnwys pa wleidyddion sy’n eistedd ble, a sut maen nhw’n pleidleisio ar ddeddfau Cymreig. Byddwch hefyd yn ymweld ag un o’r ystafelloedd pwyllgor, lle mae Gweinidogion a chyllidebau’n mynd trwy broses o graffu, a lle mae pobl o bob cwr o Gymru’n cyflwyno tystiolaeth a helpu i ddylanwadu ar bolisïau a deddfau.
Ar ddiwedd y daith byddwch yn derbyn tocynnau ar gyfer Cwestiynau’r Prif Weinidog, lle gallwch wylio nifer o wleidyddion y meinciau cefn a’r wrthblaid yn holi Mark Drakeford AS!
Bydd staff Cymorth Cymru yn cwrdd â chi y tu allan i’r Senedd, ac yn aros gyda chi drwy gydol y daith. Rydym hefyd yn hapus hefyd i groesawu eich gweithiwr cymorth i ddod gyda chi os byddai hynny’n gwneud i chi deimlo’n fwy cyfforddus – rhowch wybod i ni.
Dywedodd un person oedd eisoes wedi bod ar y daith, “Roedd y daith o amgylch y Senedd yn hynod ddiddorol, a dysgais sut y gall pobl a chanddynt brofiad o fyw gael cyfle i ymwneud â’r AS lleol a Llywodraeth Cymru. Roedd y staff a’r tywysydd yn gyfeillgar iawn, a’r adeilad yn gwbl hygyrch.”
I gofrestru ar gyfer y daith, cliciwch yma ac mae croeso i chi ebostio EBE@cymorthcymru.org.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau neu am ragor o wybodaeth. Noder, os gwelwch yn dda: mae cyfyngiad ar y nifer all fynd ar y daith, a byddwn yn dilyn trefniant ‘cyntaf i’r felin’.
Rwyf wrth fy modd yn cyhoeddi ein bod wedi lansio ein prosiect newydd, Arbenigwyr trwy Brofiad, yn swyddogol!
Heddiw, cynhaliwyd digwyddiad lansio ar-lein gyda Julie James, Gweinidog Llywodraeth Cymru, a Katie Dalton, Cyfarwyddwr Cymorth Cymru. Buom yn trafod sut y daeth y prosiect i fod, pwysigrwydd gwrando ar, a dysgu gan, bobl a chanddynt brofiad go iawn o ddigartrefedd, a pha gyfleoedd y byddwn yn eu cynnig.
Mae’r platfform hwn ar eich cyfer chi, fel arbenigwr, i rannu eich barn a’ch profiadau, ac i gymryd y cyfle i ddylanwadu ar bobl o Lywodraeth Cymru i sefydliadau ymgyrchu cymunedol.
Mae digartrefedd yn golygu llawer mwy na dim ond tai, felly gallwch ddisgwyl cael trafodaethau am bopeth dan haul, o wasanaethau iechyd meddwl a chyfleoedd i’r rhai sy’n gadael y carchar, i’r wladwriaeth les a mynd i’r afael â stigma a gwahaniaethu.
Mae’n holl bwysig fod y prosiect hwn yn gynhwysol, ac yn gallu cyrraedd at ddemograffig eang o bobl ym mhob cwr o Gymru. Mae Covid-19 wedi amlygu ein gallu i weithio ar-lein mewn modd mwy hygyrch, a’n nod yw sicrhau nad oes unrhyw beth yn eich rhwystro rhag cymryd rhan.
Rwyf bob amser yn barod i glywed eich syniadau a’ch adborth, ac yn hynod ddiolchgar i’r rhai hynny ohonoch sydd wedi cymryd rhan yn ein arolwg ac a ddaeth gyda mi ar y sgwrs a’r daith o’r Senedd.
Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda chi wrth i ni ddechrau cydweithredu ar y prosiect hwn o newid dilys, gwirioneddol.
Mae adroddiad newydd yn amlinellu sut mae pobl a chanddynt brofiad o ddigartrefedd yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r broblem hon yng Nghymru. Mae ‘Arbenigwyr trwy Brofiad: sut ddylen ni roi terfyn ar ddigartrefedd – gan bobl sydd wedi cael profiad ohono‘ wedi dylanwadu’n uniongyrchol ar adroddiad diweddaraf y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd.
Ym mis Mehefin 2019, sefydlodd y Gweinidog dros Addysg a Llywodraeth Leol y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd. Cylch gorchwyl y grŵp yw darparu argymhellion polisi i Lywodraeth Cymru ar y gweithredoedd a’r atebion sy’n angenrheidiol i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.
Yn Cymorth, rydym yn rhoi gwerth mawr ar wrando ar, a gweithredu ar, farn pobl a chanddynt brofiad o ddigartrefedd. Fel aelod o’r Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd, aethom ati i drefnu digwyddiadau ymgysylltu ym mis Chwefror 2020 fel bod modd i bobl drafod eu profiadau a rhannu eu syniadau ar sut y gallwn roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.
Cynhaliwyd dau ddigwyddiad ym Mae Colwyn a Chaerdydd, gyda bron i 80 o bobl yn eu mynychu. Daethant â llawer iawn o arbenigedd i’r trafodaethau hyn, yn seiliedig ar eu profiadau eu hunain a chydag agwedd benderfynol tuag at wneud newidiadau. Strwythurwyd y ddogfen hon o amgylch y pynciau trafod o’r digwyddiadau hynny, gyda’r pwyntiau allweddol wedi eu crynhoi ochr yn ochr â dyfyniadau uniongyrchol gan y bobl oedd yn bresennol.
Cafodd y ddogfen ei hystyried gan y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd, gan arwain at welliannau ac ychwanegiadau i’w hadroddiad a’u hargymhellion i’r Gweinidog. Ers hynny, mae’r Gweinidog wedi derbyn yr holl argymhellion mewn egwyddor.
Hoffem ddiolch o galon i bawb a ddaeth i’r digwyddiadau gan gyfrannu eu syniadau a’u profiadau i’r trafodaethau hyn.
Gallwch lawrlwytho’r adroddiad yn Gymraeg neu yn Saesneg.