Sefydlwyd y prosiect Arbenigwyr trwy Brofiad i rymuso pobl a chanddynt brofiad o wasanaethau digartrefedd a chymorth tai i’w galluogi i ddylanwadu ar bolisi ac ymarfer ledled Cymru. Caiff y prosiect hwn ei gydlynu gan Cymorth Cymru, y corff sy’n cynrychioli darparwyr gwasanaethau ym meysydd digartrefedd, tai a chymorth yng Nghymru.
Mae pedwar prif nod i’r prosiect:
- Darparu cyfleoedd i bobl a chanddynt brofiad byw o wasanaethau digartrefedd a chymorth tai i’w galluogi i rannu eu barn a’u profiadau.
- Sicrhau bod barn a phrofiadau pobl yn cael eu cyfathrebu i ddarparwyr gwasanaethau a rhai sy’n gwneud penderfyniadau ledled Cymru.
- Darparu cyfleoedd i bobl a chanddynt brofiad byw i ennill hyder, sgiliau a gwybodaeth a fydd yn eu helpu i fynegi eu barn a dylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y dyfodol.
- Annog darparwyr cymorth i gynnwys pobl a chanddynt brofiad byw mewn penderfyniadau ynghylch eu gwasanaethau.
Beth rydyn ni’n ei olygu wrth ddweud ‘Arbenigwyr trwy Brofiad’?
Yng nghyd-destun y prosiect hwn, Arbenigwyr trwy Brofiad yw pobl sydd wedi cael profiad o ddigartrefedd neu brofiad o ddefnyddio gwasanaethau cymorth yn gysylltiedig â thai. Rydyn ni o’r farn eu bod yn arbenigwyr o ran eu profiadau eu hunain, ac yn darparu mewnwelediad gwerthfawr ynghylch sut y dylem ddatblygu polisi a gwasanaethau yng Nghymru.
Cwrdd â Freya
Freya Reynolds-Feeney yw ein Swyddog Prosiect Arbenigwyr trwy Brofiad. Hi fydd yn arwain y prosiect – mae ganddi brofiad o weithio gyda thenantiaid tai cymdeithasol a phobl sy’n defnyddio gwasanaethau cymorth ym maes tai yng Nghymru.
Pwy yw Cymorth Cymru?
Cymorth Cymru yw’r corff trosfwaol ar gyfer darparwyr gwasanaethau digartrefedd a chymorth ym maes tai yng Nghymru. Rydym yn gweithredu fel llais y sector, gan ddylanwadu ar ddatblygu a gweithredu polisïau, deddfwriaeth ac ymarfer sy’n effeithio ar ein haelodau a’r bobl maent yn estyn cymorth iddynt. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phobl sy’n defnyddio gwasanaethau, ein haelodau a’n partneriaid i greu newid. Credwn y gallwn, gyda’n gilydd, gael mwy o effaith ar fywydau pobl. Rydym yn awyddus i fod yn rhan o fudiad cymdeithasol sy’n rhoi terfyn ar ddigartrefedd a chreu Cymru lle gall pawb fyw’n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, a ffynnu yn eu cymunedau.
Pam y datblygwyd y prosiect?
Yn Cymorth rydyn ni’n werthfawrogol iawn o farn pobl a chanddynt brofiad byw, ac yn teimlo’n angerddol ynghylch rhoi llwyfan i bobl sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Yn 2020 fe gwrddon ni â thua 80 o bobl a chanddynt brofiad byw, a gofyn iddynt sut, yn eu barn hwy, y dylen ni roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru. Cyflwynwyd yr adroddiad dilynol i Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd Llywodraeth Cymru a’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Yn ddiweddarach, argymhellodd y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd y dylai Llywodraeth Cymru barhau i ddarparu cyfleoedd ar gyfer pobl a chanddynt brofiad byw i ddylanwadu ar bolisi – a chytunodd y Gweinidog. O ganlyniad, aethom ati i ddatblygu’r cynnig ar gyfer y prosiect hwn.
Sut mae’r prosiect yn cael ei ariannu?
Ariennir y prosiect gan yr Oak Foundation a Llywodraeth Cymru.
Hawlio Costau