Nid yw Cymorth Cymru yn darparu cyngor na chymorth, ond isod mae rhai dolenni defnyddiol i sefydliadau all gynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth os ydych chi’n ddigartref, neu mewn perygl o fod yn ddigartref, neu’n wynebu heriau eraill yn eich bywyd:
- Mae Shelter Cymru yn bodoli i amddiffyn yr hawl i gael cartref diogel. Bob blwyddyn, maen nhw’n helpu miloedd o bobl yng Nghymru trwy gynnig cyngor annibynnol yn rhad ac am ddim. Ceir rhagor o wybodaeth ar eu gwefan neu trwy alw eu llinell gymorth ar 08000 495 495.
- Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu gwybodaeth a chyngor annibynnol, cyfrinachol i helpu pobl gyda phroblemau’n ymwneud â’r gyfraith, dyled, nwyddau, tai ac eraill. Am ragor o wybodaeth, ewch i’w gwefan neu cysylltwch â’u gwasanaeth ffôn cenedlaethol ar 0800 702 2020.
- Llinell Gymorth Byw Heb Ofn: Os ydych wedi dioddef trais yn y cartref, trais rhywiol a/neu drais yn erbyn menywod, neu’n poeni am ffrind neu berthynas sy’n dioddef unrhyw fath o drais neu gamdriniaeth, gallwch alw llinell gymorth Byw Heb Ofn yn rhad ac am ddim ar 0808 80 10 800, neu ewch i’w gwefan Byw Heb Ofn.
Gallwch hefyd gysylltu â’ch awdurdod lleol am help i atal neu leddfu digartrefedd. Gweler isod am ddolenni i’w gwefannau:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent | www.blaenau-gwent.gov.uk |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr | www.bridgend.gov.uk |
Cyngor Caerdydd | www.cardiff.gov.uk |
Cyngor Sir Gaerfyrddin | www.carmarthenshire.gov.uk |
Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili | www.caerphilly.gov.uk |
Cyngor Sir Ceredigion | www.ceredigion.gov.uk |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy | www.conwy.gov.uk |
Cyngor Sir Ddinbych | www.denbighshire.gov.uk |
Cyngor Sir y Fflint | www.flintshire.gov.uk |
Cyngor Sir Gwynedd | www.gwynedd.gov.uk |
Cyngor Sir Ynys Môn | www.anglesey.gov.uk |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful | www.merthyr.gov.uk |
Cyngor Sir Fynwy | http://www.monmouthshire.gov.uk |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot | www.npt.gov.uk/ |
Cyngor Dinas Casnewydd | www.newport.gov.uk |
Cyngor Sir Penfro | www.pembrokeshire.gov.uk/ |
Cyngor Sir Powys | www.powys.gov.uk |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf | www.rhondda-cynon-taff.gov.uk |
Cyngor Sir a Dinas Abertawe | www.swansea.gov.uk |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen | www.torfaen.gov.uk |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg | www.valeofglamorgan.gov.uk |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam | www.wrexham.gov.uk |