Mae adroddiad newydd yn amlinellu sut mae pobl a chanddynt brofiad o ddigartrefedd yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r broblem hon yng Nghymru. Mae ‘Arbenigwyr trwy Brofiad: sut ddylen ni roi terfyn ar ddigartrefedd – gan bobl sydd wedi cael profiad ohono‘ wedi dylanwadu’n uniongyrchol ar adroddiad diweddaraf y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd.
Ym mis Mehefin 2019, sefydlodd y Gweinidog dros Addysg a Llywodraeth Leol y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd. Cylch gorchwyl y grŵp yw darparu argymhellion polisi i Lywodraeth Cymru ar y gweithredoedd a’r atebion sy’n angenrheidiol i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.

Yn Cymorth, rydym yn rhoi gwerth mawr ar wrando ar, a gweithredu ar, farn pobl a chanddynt brofiad o ddigartrefedd. Fel aelod o’r Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd, aethom ati i drefnu digwyddiadau ymgysylltu ym mis Chwefror 2020 fel bod modd i bobl drafod eu profiadau a rhannu eu syniadau ar sut y gallwn roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.
Cynhaliwyd dau ddigwyddiad ym Mae Colwyn a Chaerdydd, gyda bron i 80 o bobl yn eu mynychu. Daethant â llawer iawn o arbenigedd i’r trafodaethau hyn, yn seiliedig ar eu profiadau eu hunain a chydag agwedd benderfynol tuag at wneud newidiadau. Strwythurwyd y ddogfen hon o amgylch y pynciau trafod o’r digwyddiadau hynny, gyda’r pwyntiau allweddol wedi eu crynhoi ochr yn ochr â dyfyniadau uniongyrchol gan y bobl oedd yn bresennol.
Cafodd y ddogfen ei hystyried gan y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd, gan arwain at welliannau ac ychwanegiadau i’w hadroddiad a’u hargymhellion i’r Gweinidog. Ers hynny, mae’r Gweinidog wedi derbyn yr holl argymhellion mewn egwyddor.
Hoffem ddiolch o galon i bawb a ddaeth i’r digwyddiadau gan gyfrannu eu syniadau a’u profiadau i’r trafodaethau hyn.