Sgwrs a Thaith o amgylch y Senedd

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi trefnu taith arall o amgylch Senedd Cymru ar gyfer pobl a chanddynt brofiad o ddigartrefedd neu o ddefnyddio gwasanaethau cymorth tai yng Nghymru. Bydd hyn yn digwydd ddydd Mawrth 12 Gorffennaf rhwng 11:30 a 14:30.

Mae hwn yn gyfle i bobl a chanddynt brofiad o fyw i gael taith bersonol o amgylch Senedd Cymru, lle mae ein gwleidyddion yn trafod, dadlau a phleidleisio ar faterion sy’n effeithio ar bob un ohonom – yn cynnwys tai, iechyd, addysg a gofal cymdeithasol. Byddwch hefyd yn dysgu sut y gallwch sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.

Fel rhan o’r daith, cewch gipolwg ar y Siambr, lle bydd aelod o staff y Senedd yn esbonio sut mae’r cyfan yn gweithio, yn cynnwys pa wleidyddion sy’n eistedd ble, a sut maen nhw’n pleidleisio ar ddeddfau Cymreig. Byddwch hefyd yn ymweld ag un o’r ystafelloedd pwyllgor, lle mae Gweinidogion a chyllidebau’n mynd trwy broses o graffu, a lle mae pobl o bob cwr o Gymru’n cyflwyno tystiolaeth a helpu i ddylanwadu ar bolisïau a deddfau.

Ar ddiwedd y daith byddwch yn derbyn tocynnau ar gyfer Cwestiynau’r Prif Weinidog, lle gallwch wylio nifer o wleidyddion y meinciau cefn a’r wrthblaid yn holi Mark Drakeford AS!

Bydd staff Cymorth Cymru yn cwrdd â chi y tu allan i’r Senedd, ac yn aros gyda chi drwy gydol y daith. Rydym hefyd yn hapus hefyd i groesawu eich gweithiwr cymorth i ddod gyda chi os byddai hynny’n gwneud i chi deimlo’n fwy cyfforddus – rhowch wybod i ni.

Dywedodd un person oedd eisoes wedi bod ar y daith, “Roedd y daith o amgylch y Senedd yn hynod ddiddorol, a dysgais sut y gall pobl a chanddynt brofiad o fyw gael cyfle i ymwneud â’r AS lleol a Llywodraeth Cymru. Roedd y staff a’r tywysydd yn gyfeillgar iawn, a’r adeilad yn gwbl hygyrch.”

I gofrestru ar gyfer y daith, cliciwch yma ac mae croeso i chi ebostio EBE@cymorthcymru.org.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau neu am ragor o wybodaeth. Noder, os gwelwch yn dda: mae cyfyngiad ar y nifer all fynd ar y daith, a byddwn yn dilyn trefniant ‘cyntaf i’r felin’.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s

%d bloggers like this: